Neidio i’r cynnwys

Anghydfodau

Adfer Dyledion

Gall adfer dyledion fod yn broses heriol sy’n cymryd amser. Gyda’r cymorth cyfreithiol cywir, caiff eich buddiannau eu diogelu ar bob cam, i fusnesau ac unigolion fel ei gilydd.

P’un a ydych yn ceisio adfer anfoneb fach sydd heb ei thalu neu’n dilyn dyled fwy a chymhleth, gallwn eich cynorthwyo ar bob cam o’r broses, gan ddarparu cyngor clir ac ymarferol. Bydd ein cyfreithwyr profiadol yn eich helpu i lywio’r gweithdrefnau cyfreithiol yn effeithlon, gan leihau’r effaith andwyol ar eich busnes neu eich cyllid personol.

Rydym yn deall bod adfer dyledion yn gallu bod yn her ariannol, a dyna pam rydym yn ceisio cynnig atebion cost-effeithiol wedi’u teilwra i’ch sefyllfa. Rydym yn cynnig strwythurau ffi tryloyw ac yn amlinellu’r costau o’r cychwyn cyntaf. Mewn rhai achosion, gallwn hefyd gynnig cytundebau “dim ennill, dim ffi”, gan eich galluogi i geisio adfer heb gostau ymlaen llaw.

Mae gweithredu’n gyflym yn bwysig. Mae ein tîm yn ymrwymedig i weithredu’n brydlon ac yn effeithlon i adfer yr hyn sy’n ddyledus i chi, a byddwn yn eich hysbysu’n gyson gyda diweddariadau rheolaidd ar hynt eich achos.

Sut rydym yn helpu

  • Cyngor cyn gweithredu’n gyfreithiolArchwilio trafodaethau a chytundebau setlo cyn cymryd camau ffurfiol.
  • Dyfarniadau Llys Sirol (CCJs)Gwneud cais am CCJ i ffurfioli’r ddyled a sicrhau opsiynau gorfodi.
  • Camau gorfodiAtodiad enillion, gorchmynion tâl neu atafaelu asedau drwy feili.
  • Adfer dyledion i fusnesauAdfer anfonebau sydd heb eu talu i fusnesau bach a chwmnïau mwy.
  • Adfer dyledion i unigolionCyngor clir ar eich opsiynau a chefnogaeth drwy gydol y broses.
  • Anghydfodau dyledionEich cynrychioli mewn trafodaethau neu, os oes angen, yn y llys.

Sut mae’n gweithio

Adfer yr hyn sy’n ddyledus i chi, gam wrth gam.

  1. Adolygu

    Rydym yn edrych ar y ddyled a’r gwaith papur, ac yn nodi ein costau o’r cychwyn.

  2. Cyn mynd i’r llys

    Rydym yn archwilio trafodaethau a setliad cyn cymryd camau ffurfiol.

  3. Dyfarniad

    Os oes angen, rydym yn gwneud cais am Ddyfarniad Llys Sirol i ffurfioli’r ddyled.

  4. Gorfodi

    Rydym yn gorfodi’r dyfarniad drwy atodiad enillion, gorchmynion tâl neu atafaelu asedau drwy feilïaid.

Cwestiynau cyffredin

Cwestiynau y mae cleientiaid yn eu gofyn yn aml.

Ydych chi’n cynnig “dim ennill, dim ffi”?

Mewn rhai achosion gallwn gynnig cytundeb “dim ennill, dim ffi”, fel y gallwch geisio adfer y ddyled heb gostau ymlaen llaw.

Ydych chi’n helpu busnesau ac unigolion?

Ydym. Rydym yn adfer anfonebau heb eu talu i fusnesau bach a chwmnïau mwy, ac yn rhoi cyngor clir i unigolion ar eu hopsiynau.

Beth os nad ydynt yn talu ar ôl y dyfarniad?

Mae Dyfarniad Llys Sirol yn agor opsiynau gorfodi, gan gynnwys atodiad enillion, gorchmynion tâl a beilïaid.

Sut fydda i’n gwybod beth sy’n digwydd?

Rydym yn gweithredu’n brydlon ac yn eich cadw’n wybodus gyda diweddariadau rheolaidd ar hynt eich achos.

Eich tîm

Y bobl a fydd yn gofalu amdanoch

Aelodau o’n tîm Adfer Dyledion.

Ein holl bobl
Portread o Huw Griffiths

Huw Griffiths

Cyfarwyddwr / Cyfreithiwr

Portread o Ian Williams

Ian Williams

Gweithredwr Cyfreithiol

Siaradwch â ni

Trafodwch eich sefyllfa gyda chyfreithiwr cymwys, yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Rydym ar gael i’ch cyfarfod wyneb yn wyneb neu i siarad â chi dros y ffôn. Ffoniwch eich swyddfa agosaf, neu anfonwch neges a byddwn yn cysylltu â chi.

Ffoniwch 01248 722215 Anfon neges